Session 4: Use of Welsh

ARIES: Mawrth 21 i Ebrill 20

        ARIES: March 21 to April 20

Gallai tasgau yn y gwaith yn cymryd mwy o amser na`r disgwyl

         Tasks at work may take more time than expected

Byddwch yn amyneddgar a pheidiwch â dadlau gyda`ch cydweithwyr

         Be patient and don`t argue with your colleagues

Byddai heddiw yn ddiwrnod da i gwrdd â ffrindiau newydd

         Today would be a good day to meet new friends

Peidiwch ag aros yn rhy hir i gyflwyno eich hunan

         Don`t wait too long to introduce yourself

Cymerwch ofal ger dŵr pan fyddwch chi allan yng nghefn gwlad

         Take care near water when you are out in the countryside

TAURUS: Ebrill 21 i Fai 21

         TAURUS: April 21 to May 21

Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn y mae pobl yn ei dweud

         Listen carefully to what people are saying

Mae ganddyn nhw rai syniadau a chyngor da

         They have some good ideas and advice

Efallai y cewch broblemau gyda threfniadau teithio

         Perhaps you will have problems with travel arrangements

Byddwch yn barod i ganslo`ch cynlluniau os oes angen

         Be ready to cancel your plans if necessary

Byddwch yn ofalus am wario gormod o arian ar wyliau

         Be careful about spending too much money on a holiday

Efallai y bydd angen i chi brynu pethau pwysig eraill

         You may need to buy other important things

GEMINI: Mai 22 i Fehefin 21

         GEMINI: May 22 to June 21

Defnyddiwch eich dychymyg i ddechrau prosiect creadigol newydd

         Use your imagination to start a new creative project

Bydd eich teulu yn eich cefnogi pan fyddant yn gweld y pethau cyffrous rydych chi`n eu gwneud

         Your family will support you when they see the exciting things you are doing

Efallai y bydd angen i chi gadw cyfrinach bwysig er mwyn osgoi cynhyrfu ffrind

         You may need to keep an important secret to avoid upsetting a friend

Cymerwch ofal wrth ymweld â thref neu ddinas fawr

         Take care when visiting a large town or city